Ein Ymweliad â Llangrannog
Dysgu am fywyd Cranogwen
gan ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4
Ein Ymweliad â Llangrannog
Dysgu am fywyd Cranogwen
gan ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4
Dyma Mickey. Mae e'n byw yn Llangrannog ac yn gwybod llawer iawn am hanes y pentref. Roedd hi'n ddiwrnod wyntog, gwlyb ac oer pan aethon ni ym mis Tachwedd!
Esboniodd Mickey i ni taw pentref twristiaeth yw Llangrannog heddiw, ond yn ystod oes Cranogwen roedd y pentref yma yn fwrlwm i gyd fel pentref pysgota ac adeiladu llongau ketch. Roedden nhw'n adeiladu'r llongau ble mae'r maes parcio heddiw ac yn dadlwytho ar y traeth.
Dyma'r odyn galch. Amser maith yn ôl, roedd calch a glo yn cael ei roi yn yr odyn a'u losgi. Ac yna, roedd calch ar ôl. Roedd y ffermwyr lleol yn rhoi calch ar y caeau er mwyn gwneud y tir yn ffrwythlon.
Mae 1836 (rydyn ni'n credu) wedi ei gerfio ar un o'r cerrig tu fewn yr odyn.
Ar ben clogwyn, yn edrych dros y pentref mae cerflun Sant Carannog.
Sant Carannog oedd sylfaenydd eglwys y pentref. Adeiladodd yr egwlys i fewn o'r arfordir, fel bod y môr-ladron ddim yn gallu gweld yr eglwys a dwyn eu trysorau.
Dyma Eglwys Sant Carannog.
Yn y fynwent yma mae bedd Cranogwen.
Bedd Cranogwen ydy'r bedd mwyaf yn y fynwent! Mae wedi ei leoli lan ar dop y fynwent o flaen y coedwig.
Darllenodd pawb o ddosbarth 3 y garreg fedd.
Tu fewn yr egwlys, mae yna plac ar y wal sydd yn gofeb i'r hyn wnaeth Cranogwen yn ystod ei hoes.
Darllenodd Nancy, Sioned, Erin, Celyn a Jac Elis y gofeb yma.
Rydyn ni mor falch ein bod wedi cael y cyfle o fynd i Langrannog a chael gweld y pentref oedd mor bwysig i Sarah Jane Rees ac wrth gwrs cael gweld ei bedd.
Rydyn ni wedi dysgu llawer iawn am hanes y pentref hefyd ac yn lwcus iawn bod Mickey wedi bodloni roi o'i amser i ddangos y pentref i ni ac esbonio sut mae wedi newid ers oes Cranogwen.
Diolch hefyd i Mrs Williams a Mrs James am wrando arno ni a threfnu'r daith.