Gadewch i ni gyflwyno

Griffith Jones i chi………

Cynhaliwyd ein hoedfa ddiolchgarwch yn ôl ein harfer. Thema’r gwasanaeth eleni oedd

‘ Diolch am Addysg ’.

Daeth tyrfa luosog i ymuno â ni yn Eglwys St. Barnabas ar ddydd Mercher, 9fed o Hydref, 2013.

Ni, dosbarth 4 oedd yn gyfrifol am y rhannau arweiniol. Buom yn brysur iawn yn ysgrifennu sgript dosbarth cyfan ar gyfer y gwasanaeth..

Ein siaradwr gwadd eleni oedd y Parchedig Brian Witt, Ficer Llanddowror.

Cafwyd neges bwrpasol ganddo am Griffith Jones.

Gwasanaeth Diolchgarwch

'Diolch am Addysg'