Ar ddydd Mercher, 4ydd o Chwefror 2015, aeth blwyddyn 5 (ond am 3), Mrs Brice, Mrs James a Mrs Williams ar daith addysgiadol i’r Bala i weld Canolfan Byd Mary Jones ger y Bala, ei chartref ble magwyd yn Llanfihangel-y-Pennant a’i man gorffwys ym Mryncrug.

Roedden ni i fod i adael yn brydlon am hanner awr wedi saith y bore. Ond yn anffodus, doedd un o’r gwregys diogelwch ddim yn gweithio! Ar ôl i’r athrawon brwydro yn hir gyda’r gwregys penderfynont mai’r gwregys oedd wedi ennill y dydd! Doedd dim gwahaniaeth oherwydd roedd un sedd sbar yn y blaen gyda’r athrawon. Yn y diwedd gadawon am wyth y bore. Roedd pawb yn swnllyd ac yn llawn cyffro ond ar ol dwy awr roedd pawb angen y ty bach, ond yn ffodus stopio’n ni mewn garej ym Machynlleth a chael un o ddynion y garej i edrych ar y gwregys.

Ar y ffordd i Dywyn gwelsom olygfeydd o arfordir prydferth bae Ceredigion, gyda’r afon Dyfi yn llonydd fel darn o wydr.

Yn Nhywyn, trowyd am Fryncrug i weld bedd Mari Jones

yng Nghapel Bethlehem. Gofynnodd Mrs James i fi ddarllen beth oedd wedi ei ysgrifennu ar y bedd tra bod Mrs Brice yn fy ffilmio.

Gwnaeth hyn fi i deimlo’n nerfus ond roeddwn yn weddol hyderus.

Roedd ei chartref, ar ôl iddi briodi,

hefyd yn y pentref ond nid oedd neb

adre felly dim ond y tu allan welon ni.

Ymlaen wedyn i Lanfihangel-y-Pennant i weld ble magwyd hi tra’n ferch fach, ond yn anffodus, fe aethom ar goll! Roedd rhaid i ni troi rownd a gofyn am gyfarwyddiadau. Ar ôl tri chwarter awr cyrhaeddom y pentref mwyaf bychan yn y wlad rydw i wedi ei weld erioed!

Cliciwch ar gwrlyn i fynd i'r dudalen nesaf