Thomas a Nel

Dros y blynyddoedd roedd Tom Jones, Brynawel, wedi dod yn ffrind da i Nel. Un Sul ar ôl yr Ysgol Sul, rhoddodd Tom lythyr iddi. Roedd y llythyr yn dweud hanes ei fywyd, lle cafodd ei eni ac ati... Ar ddiwedd y llythyr ysgrifennodd ...

"Briodi di fi Ellen? Cei wythnos i feddwl drosto, ond Sul nesaf byddaf yn disgwyl ateb .....

"Bydd un gair yn ddigon a 'gwnaf' fydd hwnnw, gobeithio"

Roedd Nel yn hoff iawn o Tom ac roedd hi'n gwybod y gwnai ŵr da. Atebodd trwy ysgrifennu 'gwnaf' ar ddarn o bapur a'i roi i Tom.

Am 10 o'r gloch y bore ar Awst 15fed 1903 fe briodwyd Nel a Tom yng Nghapel Bethel Castell Newydd Emlyn.

Gweithiodd Nel ei ffrog briodas ei hun, un glas tywyll ydoedd. Ei forwyn briodas oedd Mary Jane.

Ymhen pedair blynedd, roedd gan Nel ddau o blant, Emily a William.

Gyda arian am werthu Llainlas ym Mhatagonia, penderfynodd Nel brynu siop yn Llandysul a galwodd yn Emporium. Roedd hi'n gwerthu dillad a gwnio yno. Roedd yr Emporium ar sgwar Llandysul - yn Bradford House. Yno y bu hi a Tom nes iddynt ymddeol yn 1936 ac yna daethant yn ôl i Dre-fach i fyw, rhif 1, Graig Wen.

Thomas a Nel ar ddiwrnod eu priodas

Thomas, Nel, Emily a William

Thomas Jones Brynawel