Mae'r Afon Wybrnant gerllaw'r tŷ, ac mae’r enw yn cael ei ychwanegu at Tŷ Mawr i'w wahaniaethu oddi wrth dai eraill o’ r enw Tŷ Mawr.

Nid oes sicrwydd pendant am darddiad yr enw Wybrnant. Er mai enw ar afon fach yw nant ac mae wybr yn hen enw am

yr awyr neu gymylau.

Mae rhai yn dadlau fod y gair wedi tarddu o lygriad o gwiber, sef adder neu viper yn Saesneg. Yn ôl un chwedl, amser maith yn ôl y wiber oedd neidr anferth oedd yn hedfan ac yn byw yn y cwm.