Bywyd i'r teithwyr ar y Dunbrody

Dim ond dau ddosbarth o deithwyr oedd yn cael eu cario gan y Dunbrody, teithwyr

caban, yn talu rhwng £5 a £8; a teithwyr tlawd yn talu rhwng £3 a £4. Ni fyddai'r gwas fferm yn cael mwy na £1 y mis o gyflog! Roedd hyd yn oed tocyn tlawd y tu hwnt i allu llawer o bobol.

Byddai'r daith yn cymeryd hyd at chwe wythnos i groesi'r mor Iwerydd a dim ond y bobl dewr, a phobl oedd wedi diflasu'n llwyr â bywyd oedd yn ei cael eu temtio.

Yn ystod y daith, roedd y teithwyr tlawd braidd yn gweld golau dydd. Roeddynt yn cael mynd i fyny ar fwrdd y llong am tua awr y dydd. Byddai grwpiau bach yn casglu o amgylch stôf agored i goginio. Pan oedd eu hamser i fyny, roeddynt yn mynd yn ôl i lawr i'r tywyllwch. Dwr glaw wedi i ferwi oedd ganddynt i yfed er dim ond ychydig iawn ohono yr oeddynt yn ei gael.

Roedd y llong yn dywyll ac yn swnllyd, a'r unig olau ar waelod y dec oedd goleuadau paraffin, er nad oedd hi'n bosib cynneu'r lamp yn aml oherwydd roedd y llong wedi'i gwneud allan o bren. Gan fod y llong yn siglo, gallai hyn achosi'r llong fynd ar dân.

Roedd gan y teithwyr tlawd un bync i rannu rhwng chwech person!! Roedd pawb yn gobeithio bod nhw yn cael y bync top oherwydd gallai unrhyw lanast sarnu trwy'r bync top lawr i'r bync gwaelod.

Bwcedi oedd ganddynt ar gyfer mynd i'r tŷ bach, a phan fyddai'r bwced yn llawn, byddent yn ei daflu dros ochr y llong. Beth fyddai'n digwydd os y byddai'r gwynt yn chwythu o'r cyfeiriad anghywir? Byddai'r teithwyr yn poeri dros ochr y llong i weld o ba gyfeiriad fyddai'r gwynt yn chwythu cyn taflu'r carthion dros ochr y llong.

Gan mai dim ond bwcedi fel toiled a dŵr o'r môr i olchi dillad oedd ganddynt, does rhyfedd fod pobl yn mynd yn sal yn gloi.

Bync top

Bync gwaelod

Bwced ty bach

stôf

Cholera a Typhus oedd y rheswm am rhan fwyaf o'r marwolaethau. Claddwyd y rhai fu fawr dros ochr y llong. Dyma pam y gelwid y llongau hyn yn 'longau coffin'.

Yn ystod stormydd, roedd pobl yn cael eu cau yng ngwaelod y llong. Roedd yn rhaid iddynt fyw ar fisgedi caled. Nid oedd glanweithdra yn dda ar y llong.

Er gwaethaf hyn, roedd y teithwyr yn y cabanau yn cael bwyd a gwasanaeth gwell.

Roedd digon o fwyd i'r

teithwyr mwyaf cyfoethog.