Lance Armstrong

arwr neu dihiryn?

Fe gafodd Lance Armstrong ei eni yn Plano, Texas, America yn 1971.

Beiciwr professiynol oedd Lance Armstrong ac yn 1993 ennilloedd ras enfawr pencampwriaeth y byd

Yn 1996 cafodd Lance cancr. Rhoddwyd siawns o 10% iddo fyw ac 1% iddo reidio ei feic eto. Ar ol oesau yn yr ysbyty gyda cancr gwellodd!! Yn 1999, fe reidiodd ei feic eto, dim ond 3 flwyddyn ar ol iddo cael cancr! Ac yn yr un flwyddyn ennilodd Lance y ras fyd enwog y 'Tour De France'

Yn y flwyddyn 2000, sefydlodd elusen 'LiveStrong', elusen i bobl sydd yn ddioddef neu wedi cael yr afiechyd creulon ac erchyll cancr.

Ennillodd Lance y 'Tour de France' saith waith yn olynnol ac yna ar ol saith mlynedd fe wnaeth ymddeol! OND, roedd rhai pobl yn amau fod Lance Armstrong yn twyllo pawb ac yn cymryd cyffuriau gwella perfformiad .

Yn 2009, gwnaeth Lance reidio yn y 'Tour de France' eto a ddaeth yn drydydd heb ddefnyddio cyffuriau! Fe wnaeth Lance cymeryd 500 o brofion cyffiriau ond ni fethodd un erioed!! OND, yn y diwedd, yn 2012, gwnaeth Lance Armstrong cyfaddef cymeryd cyffuriau

Yn ei yrfa beicio fe wnaeth ennill dros £125,000,000 a codi dros £300,000,000 o bunoedd i'w elusen cancr 'LiveStrong'!!!

Felly, ydy Lance Armstrong yn arwr neu dihiryn?

Cred rhai ei fod yn arwr oherwydd gwnaeth goroesu cancr a codi arian ac ymwibyddiaeth afiechyd creulon cancr. Cred eraill ei fod yn ddihiryn oherwydd gwnaeth dwyllo pawb a chymryd cyffiriau gwella perfformiad!

Dwi'n credu fod Lance Armstrong yn arwr oherwydd gwnaeth codi dros £300,000,000 i'w elusen cancr 'LiveStrong' er mwyn helpu pobl sal ac fe ennillodd y ras feicio 'Pencampwriaeth y Byd'

Osian Lewis