Lleolir Tŷ Mawr ar un o hen ffyrdd y porthmyn. Ffordd traddodiadol oedd y rhain i yrru gwartheg yr holl ffordd i farchnadoedd Llundain neu drefi canolbarth Lloegr. Porthmyn oedd enw’r dynion a gerddai gyda’r gwartheg. Roedd y porthmyn yn osgoi’r prif-ffyrdd ac yn cadw at gefn gwlad. Wrth agoshau at fferm neu bentref, byddent yn gweiddi i rybuddio’r ffermwyr i gau eu gwartheg eu hunain i’w rhwystro rhag cymysgu gyda’r gwartheg teithiol.

Ganwyd William Morgan yn 1545 yn Tŷ Mawr Wybrnant. Mae Wybrnant yn agos i Benmachno yn Nyffryn Conwy ger Betws-y-Coed ac mae nawr yn eiddio’r Ymddiredolaeth Genedlaethol ers 1951.

Yn amser William Morgan, fe fyddai wedi bod yn ardal gyda ffermydd bychan a bythynnod. Yr oedd unwaith yn brif-ffordd o Dolwyddelan i Benmachno.

Mae ystyr yr enw Tŷ Mawr yn amlwg ac yn dangos ei fod yn adeilad weddol bwysig yn yr ardal. Dydyn ni ddim yn gwybod yn union sut oedd y ty yn edrych pan aned William Morgan ond o edrych ar y gwaith coed sydd ar ol, adeilad un llawr oedd yn wreiddiol.

Mae cynllun y tŷ fel ag y mae heddiw yn nodweddiadol o ffermdai o’r G16 a G17 yng Ngogledd Orllewin Cymru. Mae gan y ffenestri gaeadau a dim gwydriad sy’n nodweddiadol o’r cyfnod. Er bod Dyffryn Gwybrnant yn ymddangos yn bell o bobman heddiw, byddai wedi bod yn llai felly yng nghyfnod William Morgan, gan fod y ffordd yn rhan o rwydwaith ffyrdd y pyrthmyn o Ddolwyddelan i Benmachno ac Ysbyty Ifan ac ymlaen i farchnadoedd Lloegr.