Mae technoleg yn newid yn gyflym iawn. Yn y rhan hon o'n gwefan, rydym wedi creu tair llinell amser yn edrych ar sut mae technoleg wedi datblygu a sut mae technoleg yn dal i ddatblygu.
Dyma ein tair llinell amser: -
Cyfrifiaduron: - Gorffennol, y Presennol a'r Dyfodol Rydym wedi edrych ar sut adeiladodd Blaise Pascal y peiriant cyfrifo cyntaf oedd yn gallu adio a thynnu, i Alan Turins grëodd y cyfrifiadur mawr oedd yn llanw ystafell a helpu i dorri codau yr Almaen yn ystod WW2; sut mae technoleg wedi datblygu drwy gael yr apple smartphone / cyfrifiadur ar eich garddwrn a'r hyn y gallem edrych ymlaen ato yn y dyfodol!
Ceir: - Gorffennol, y Presennol a'r Dyfodol Rydym wedi edrych ar sut mae ceir wedi datblygu
ers i Nicolas-Joseph Cugnot ddyfeisio y wagen stêm a cherbydau Richard Trevithick â yrrir gan stêm y puffing Devil, i'r car trydanol, ceir hunan yrru a cheir o bosibl sydd yn gallu hedfan yn y dyfodol!
Mae technoleg yn effeithio ar bopeth ni'n gwneud heddiw, a bydd hefyd yn effeithio ar ein dyfodol. Allwch chi ddychmygu byd heb gyfathrebu? Sut fydden ni'n cyfathrebu heb ein ffonau clyfar, tabledi neu gliniaduron? Beth bydden ni'n gwneud heb y rhyngrwyd? Bydden ni dal yn gyrru mewn ceir gyrru stêm? Byddai ein bywydau yn wahanol iawn! Bydd ein bywydau yn wahanol iawn gyda thechnoleg yn y dyfodol hefyd! Beth ddaw yn y dyfodol?
Cyfathrebu: - Gorffennol, y Presennol a'r Dyfodol
Rydym wedi edrych ar sut ddyfeisiodd Graham Alexander Bell y ffôn cyntaf i'r 'smartphones' heddiw a beth allai fod ar gael yn y dyfodol.
ffôn cyntaf
iPhone
peiriant cyfrifo cyntaf
Y Bombe
Apple watch
y wagen stêm
Puffing Devil
car hedfan y dyfodol
ceir hunan yrru
Technoleg