Perfformiodd Cwmni Arad Goch sioe 'Hola!' i ni ar fywyd y Cymry yn allfudo i Batagonia. Sioe wych oedd wedi dod â'r stori yn fyw i ni. Dysgon ni sut fath o fywyd oedd ar y llong a'r teimladau a'r emosiwn ymysg y werin bobl wrth adael Cymru, hwylio ar y môr a chyrraedd tir di-ffrwythlon Patagonia.

Cawsom weithdy ar ôl y sioe ar sut bydden ni yn cynllunio pentref newydd.

Sioe Hola!

gan Cwmni Arad Goch