Yr Atgyfodiad Anhygoel

Y NEWYDDION DYDDIOL

www.newyddiondydd.com

Hoff bapur newydd y byd

Dyddiad:

Ddoe, atgyfododd Iesu Grist o'r bedd.

Roedd Iesu Grist yn Gristion,yn ogystal â mab Duw.

Cafodd ei groeshoelio tridiau yn ôl, ond pam roedd Iesu pob tro yn gyfeillgar a caredig?

Yn ôl pob sôn, bu Iesu yn amharchus yn y deml yr wythnos diwethaf ac o ganlyniad croeshoeliwyd ef gan y Rhufeiniaid. Cafodd Iesu ei rhwymo mewn llieiniau a roi mewn bedd. Bedd enfawr, dywyll oedd yn edrych tipyn fel ogof a carreg enfawr oi flaen.

Dyma'r hyn ddigwyddodd yng ngeiriau un llygad-dyst, Mair Magdalen:

"Ddoe, fe es i i'r bedd ond cefais y syndod mwyaf a gweld bod y bedd wedi cael ei agor! Torrodd fy ngalon i miloedd o ddarnau man ac es i chwilio am Pedr ac Ioan - fy ffrindiau.

Aeth y ddau wedyn i fewn i'r ogof a gweld bod y llieiniau wedi cael ei rhwygo i ffwrdd ond nid oedd un son am Iesu!"

Cadwodd Mair Magdalen ei pellter a chuddio gan wylo yn yr ardd cyfagos. Ar ol peth amser, mae'n debyg bod Mair wedi siarad gyda dau angel.

"Gofynnodd un o'r angylion wrthaf pam fy mod yn wylo?"

meddai Mair Magdalen, atebodd hithau, "Maen nhw wedi

mynd a corff fy Arglwydd, a dw ddim yn gwybod ble mae e!"

Dyna pryd teimlodd Mair rhywyn yn ymestun tuag at ei

ysgwydd, "Meddyliais taw'r garddwr oedd e i ddechrau ond

yna dywedodd y dyn fy enw a dyna pryd sylweddolais mai

Iesu ydoedd! Gwyrth! Roeddwn i mor hapus!"

Mawrth 5, 33

Yna neithiwr, mae'r gwyrth yn parhau. Yn y gor-uwch ystafell roedd y deuddeg disgybl wedi ymgynnull ar ol clywed newyddion syfrdanol y dydd pan ymddangosodd Iesu o'u blaenau. Dywedodd Pedr, llygad-dyst arall bod Iesu wedi dweud y geiriau canlynol wrthynt,

"Tangnefedd i chi," a dangosodd olion yr hoelion yn ei ddwylo i brofi pwy ydoedd!

Roedd y disgyblion yn hapus iawn bod Iesu dal yn fyw.