Dechreuad y prosiect oedd dathlu canmlwyddiant a hanner yr ysgol yn 2016. Agorwyd yr ysgol ar Orffennaf 3ydd, 1866 gyda 30 o blant ar y gofrestr. Fel rhan o’r dathliadau, cynhaliom wasanaeth arbennig yn Eglwys St. Barnabas ar Fehefin 23 ain i’r gymuned gyfan a’r siaradwr gwadd oedd yr Esgob WynEvans. Cymerodd holl ddisgyblion yr ysgol ran yn y gwasanaeth. Trefnom barti aryr iard i’r ysgol gyfan ar Orffennaf 3ydd, ar yr union ddiwrnod agorodd yrysgol. I barhau â’r dathlu, cynhaliom ddiwrnod agored yn yr ysgol ar ddydd Sadwrn, Medi 24 ain a Chymanfa Fodern ar y nos Sul, 25 ain o Fedi. Yn dilyn hynny, ar Fedi’r 29 ain, daeth yr Ysgrifennydd Addysg, Mrs Kirsty Williams hefyd ar ymweliad â’r ysgol.

Yn dilyny dathlu, penderfynom astudio hanes yr ysgol ers y cychwyn cyntaf a gweld sut mae ysgolion wedi datblygu ers 1866. Man cychwyn yr ymchwilio oedd ein hymweliad â Amgueddfa Abergwili yng Nghaerfyrddin. Fe wnaethom wisgo lan fel plant slawer dydd a chael gwers yn yr hen ystafell ddosbarth gan Mr Steffan Griffiths, pennaeth presennol Ysgol Nantgaredig. Roedd yn brofiad bythgofiadwy i fynd nôl mewn hanes a gweld mor wahanol oedd addysg bryd hynny. Buom hefyd ar ymweliadau â’r Amgueddfa Plentyndod yn Llangeler i astudio hen deganau a gweld hen ddosbarth oes Fictoria, ac i Eglwys y Carcharorion Rhyfel yn Henllan iddarganfod ffeithiau am efaciwis a ddaeth i’r ysgol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn olaf, aethom ar ymweliad â Amgueddfa Wlân Drefach Felindre i weld ble roedd plant yn gweithio yn y pentref cyn i’r ysgol agor a dysgu am olchi dillad slawer dydd.

Yn ogystal â’r ymweliadau, rydym wedi bod yn astudio hanes yr ysgol yn y dosbarthiadau. Mae dosbarth 1 wedi creu hen ddosbarth slawer dydd gyda henarteffactau fel cornel chwarae rôl a dosbarth 2 wedi creu arddangosfa o waith ydisgyblion a’r ymweliadau. Maent wedi cael profiadau eang trawscwricwlaidd wrthastudio hanes yr ysgol, hanes O.M. Edwards, astudio llyfr log, hen ffotograffauac arteffactau, stori Elin Angharad, gwaith mesur a rhifo Mathemateg, dyluniologo newydd i’r ysgol, sgriptio ar gyfer sgrîn werdd, cyfweld cyn ddisgyblion owahanol gyfnodau a.y.b.

Testun cystadlaethau Cyfnod Sylfaen yn Eisteddfod yr ysgol 2017 oedd addysg slawer dydd. Buom yn llefaru darn ‘Nawr Tedi’ a chanu cân ‘Llythrennau a Thablau’ yn eintimoedd. Darn y côr i’r disgyblion i gyd oedd Anthem Siarter Iaith newydd yr ysgol a gyfansoddwyd fel rhan o’r dathlu gan Anni Llŷn a disgyblion blwyddyn 4.

Daeth yr artist preswyl, Rhiannon Roberts, i’r ysgol i greu murlun yn y neuadd a pheintio yr iard fach ar gyfer y dathlu gyda disgyblion yr ysgol i gyd. Hefyd, mae disgyblion yr ysgol gyfan wedi creu un mosaic newydd gyda Mrs Glenys Williams, un o’n gweinyddesau, a pheintiad o’r Creu i ddathlu 150 gyda’r artist preswyl, Meinir Mathias.

Yn dilynein gwaith ymchwil, fe wnaethom greu sioe wreiddiol ar hanes yr ysgol sef Penboyr ‘Penboyr Un Pump Sero Dewch am Dro’. Mrs Wendy Organ, un o’n gweinyddesau a’r disgyblion oedd yn gyfrifol am sgriptio a dewis ac addasu caneuon. Ar nos Fawrth, Mawrth 21 ain fe wnaethom berfformio’r sioe i’r rhieni affrindiau’r ysgol. Roedd y neuadd yn orlawn a phawb wedi cael gwledd i weld y disgyblion yn perfformio mor hyderus a phawb yn gwybod eu gwaith. Rydym wedi anfon DVD o’n sioe i dair ysgol ar draws Cymru, Ysgol Pontrobert ac Ysgol Wirfoddol Llansantffraid ym Mhowys ac Ysgol Eglwysig Llandegai yng Ngwynedd.

Rydym wedi buddsoddi mewn gorsaf radio ar gyfer darlledu ar y we i hyrwyddo gwaith yr ysgol yn y gymuned lleol ac yn ehangach. Creuom ein rhaglen gyntaf yn y Cyfnod Sylfaen yn cynnwys cyfweliadau, caneuon a rhannau o’n sioe. Darlledwyd y rhaglen ar www.cymru.fm. Mae’r rhaglen ar gael i wrando eto ar wefan Cymru FM neu ar wefan yr ysgol. 

Yn dilynein hymweliadau a’n gwaith ymchwil, fe wnaethom gasglu’r tystiolaeth i greu gwefan o fewn safwe yr ysgol. Mae’n lliwgar, yn llawn lluniau ac yn rhwydd i’w defnyddio i ddangos ein gwaith i’r rhieni, y gymuned a’r byd ehangach ac yncrynhoi y prosiect cyfan.

Ar ôl astudio’r gorffennol, rydym wedi bod yn ystyried sut bydd ysgolion yn datblygu yn y dyfodol a sut rai fydd yr athrawon! Mae’r disgyblion wedi creu dosbarth y dyfodol wrth ochr yr hen ysgol slawer dydd er mwyn cymharu bywyd ysgol o un cyfnod i’r lall.

Trwy’r prosiect trawscwricwlaidd hwn, rydym wedi dysgu llawer am fywyd yr ysgol ers y cychwyn cyntaf yn 1866. Trwy fynd ar ymweliadau, cyfweld cynddisgyblion, astudio hen ddogfennau, arteffactau a lluniau, creu sioewreiddiol, mae’r profiadau wedi dod â’r hanes yn fyw i ni.

Mae’r dathliadau i gofio 150 Ysgol Penboyr wedi rhoi cyfle i ni ddathlu mewn steil ein hanes unigryw. Nid oes llawer o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn 150 oed! Trwy greu ein gwefan, DVD o’r Sioe, ffeiliau’r prosiect a rhaglen radio,gobeithiwn gadw’r hanes yn fyw a’r iaith Gymraeg am genedlaethau i ddod.

Menter y Dreftadaeth Gymreig 2017

Testun prosiect Cyfnod Sylfaen Ysgol Penboyr eleni yw:

‘Penboyr 150– Dewch am Dro'