Dyma'r daith gymerwyd i'r Bala mewn bws mini. Dyma'r ffordd roedd Mary Jones wedi cymryd. Byddai wedi cerdded y 26 o filltiroedd o Lanfihangel-y-Pennant drwy Dal-y-Llyn, wedyn Brithdir ac i'r Bala. Prynodd dri Beibl wrth Thomas Charles. Wrth gwrs, byddai rhaid bod Mary wedi cerdded drwy gaeau a thros y mynyddoedd!
Dechreuon ni ein taith o Ysgol Penboyr am 7.30 y bore. Fe wnaethon ni yrru drwy Aberdyfi a dod draws golygfeydd prydferth Bryn Crug lle gwelsom ni gartref Mary Jones a'i bedd yng Nghapel Bethlehem.
Dilynwyd yr heol i Lanfihangel-y-Pennant. Roedd y ffyrdd yn gul iawn, ond erbyn diwedd fe wnaethon ni gyrraedd Eglwys Sant Michael, lle'r oedd arddangosfa fach am hanes Mary Jones. Yn bellach mlaen ar yr heol
gul (dim ond yn ddigon llydan ar gyfer y bws mini!) gwnaethon ni ymweld â Ty'n Y Ddol, sef cartref Mary Jones pan yr oedd hi'n blentyn.
Gwnaethom deithio i fyny i'r Bala i ymweld â Chanolfan Mary Jones a agorwyd yn ddiweddar. Yma, gwnaethom ddysgu am hanes stori Mary Jones ac am ei Beibl gan edrych ar arddangosfeydd ryngweithiol.
Rydym yn gobeithio y gwnewch chi fwynhau darllen ac edrych ar y lluniau o'n taith i Ogledd Cymru.