Mordaith y Dunbrody

Hwyliodd y Dunbrody i mewn i harbwr Efrog Newydd ar 4 o Fai, 1849 ar ôl 28 diwrnod. Camodd 176 o deithwyr i'r lan i ddechrau bywydau newydd.

Pan gyrhaeddodd y Dunbrody yn Efrog Newydd, adroddodd Capten Williams bod y ddinas mewn cyflwr o derfysg. Dechreuodd y terfysg rhwng yr ymfudwyr newydd a'r bobl oedd yn byw yn y ddinas. Cafodd o leiaf 25 o bobl eu lladd a dros 120 o bobl eu hanafu.

Bu y Dunbrody ar y môr am 30 mlynedd. Parhaodd Capten Williams i hwylio'r Dunbrody drwy gydol y 1850au a'r 1860au, ond roedd amseroedd yn newid. Roedd llongau ager yn cymryd lle llongau hwylio, a niferoedd y teithwyr yn mynd yn llai.

Gwerthodd Graves and Sons y Dunbrody yn 1865. Ym 1875 aeth y Dunbrody ar ei mordaith olaf. Hwyliodd o Quebec i Lerpwl gyda llwyth o goed, cafodd y Dunbrody ei chwythu at greigiau oddi ar Newfoundland. Achubwyd y criw ond roedd dyddiau y Dunbrody drosodd.