Aeth Nel i Ysgol Sul yng Nghapel Clos y Graig ond chafodd ei siomi pan aeth yno gyntaf. Roedd hi mewn dosbarth o ferched yn darllen adnodau o'r Beibl, ond roedd y dosbarthiadau eraill yn swnllyd. Yn Y Wladfa byddai distawrwydd yn y Ysgol Sul.

Roeddynt yn cael gwybod yr wythnos cynt pa ran o'r Beibl y byddent yn ei astudio a byddent yn dysgu penillion ar y cof. Gallent ofyn cwestiynau a byddai eu hathrawes yn ateb yn dawel ac yn feddylgar. Roedd rhaid i Nel dderbyn bod traddodiadau Cymru yn wahanol iawn i'r Wladfa.

Capel Clos Y Graig

Byddai Nel yn mynd i Gapel Clos y Graig, Drefelin, dair gwaith bob dydd Sul. Eisteddai yn yr un sedd bob wythnos. Er mwyn dangos parch, byddai yn cerdded i mewn ar flaen ei thraed. Ei hoff emyn oedd Calon Lân.

Capel Clos Y Graig

Aelodau Clos Y Graig yn dathlu dau canmlwyddiant y capel yn 1954

Nel