Gwahanol Fathau o Feirws

Mae 'Feirws' yn mynd o gyfrifiadur i gyfrifiadur yn gyflym iawn. Gallant fynd mewn i'ch cyfrifiadur trwy atodiadau e-bost, lawrlwythau o'r rhyngrwyd, sain neu ffeiliau fideo.

Mae 'Malware' yn gallu gwneud eich dyfais i stopio gweithio yn gywir a mynd a'ch gwybodaeth. Mae'n gallu crasio neu arafu eich cyfrifiadur.

Mae 'Mwydyn Cyfrifiadur' yn gallu copio ei hunan a dinistrio eich data a

ffeiliau ar eich cyfrifiadur. Mae nhw yn 'bwyta' y system nes bod yr 'hard drive'

yn wag. Efallai bydd y mwydyn yn copïo ei hunan ar eich cyfrif e-bost ac

wedyn anfon copi i eich cysylltiadau e-bost.

'Adware' yw y lleiaf peryglus, ond mae e'n gwneud arian. Mae e'n dangos hysbysebion ar eich cyfrifiadur. Ei bwrpas yw arddangos 'pop up' hysbysebion. Os chi'n clicio ar yr hysbyseb, bydd rhyw trydydd parti yn cael bach o arian.

'Spyware' yw meddalwedd sydd yn ysbiwr arno chi, sy'n olrhain ar eich

gweithgareddau rhyngrwyd ac yn anfon 'Adware' nôl i'r system. Mae'n

lledaenu fel feirws a mwydyn cyfrifiadur. Mae'n dwyn gwybodaeth fel

eich cyfrinair a chyfeiriadau e-bost.

'Trojan' yw y Malware mwyaf peryglus. Mae nhw'n edrych am wybodaeth ariannol, bydd e'n cymryd drosodd eich adnoddau system cyfrifiadur. Mae trojan yn twyllo chi i feddwl bod e'n saff a defnyddiol, pan mae'n trio i ymosod ar eich dyfais.

Mae 'Spams' yn cael ei adnabod fel ebyst sothach electronig. Mae spam byst yn niwnsans achos mae nhw yn dod ac yn dod nes bo eich blwch post yn llawn. Mae llawer o spams yn hysbysebion masnachol sy'n anfon negeseuon e-byst di-groeso i ddefnyddwyr.

Dyma rai fathau o feirws.

Mae llawer o fathau ac mae rhai

yn gwneud mwy o

ddifrod na eraill.

Rhaid gwarchod eich

cyfrifiadur i'r dyfodol