Jwg Beca Fach
Weithiau byddai ffrind Nel, Beca yn dod draw i chwarae gyda hi.
Roedd Beca yn mwynhau dod i weld Nel oherwydd byddai'r ddwy yn neidio ar gefn Dic, ceffyl Nel, ac yn carlamu ar y paith.
Un diwrnod pan alwodd Beca, roedd Nel yn
brysur yn helpu ei mham. Rhybuddiodd Nel Beca
i beidio marchogaeth Dic heb Nel oherwydd nid
oedd hi'n barod i farchoaeth ceffyl mor fywiog
ar ben ei hun.
Edrychodd Nel allan a gweld Beca yn gorwedd ar
y llawr gyda gwaed yn rhedeg o’i phen. Roedd
Dic wedi taflu Beca oddi ar ei gefn. Brysiodd
rhieni Beca ond roedden nhw'n rhy hwyr. Roedd
Beca wedi marw.
Ar ôl yr angladd, aeth rhieni Beca i Lain Las
i roi jwg fach i Nel er cof am Beca. Roedd y jwg
yn un o brif drysorau Nel. Mae jwg Beca dal yn y
teulu heddiw!