Roedd cyfieithu’r Beibl yn bwysig iawn yn hanes Cymru, fe wnaeth achub yr iaith Gymraeg! Heb gyfieithiad y Beibl i’r Gymraeg, ni fyddem yn siarad Cymraeg heddiw!

Os na fyddai William Morgan wedi cynhyrchu ei gyfieithiad, byddai’r iaith Gymraeg wedi marw yn debyg i’r iaith Gernyweg ac ieithoedd Celtaidd eraill. Diolch iddo ef, mae’r Gymraeg yn un o ieithoedd byw hynaf Ewrop.

Ar ôl cyfieithu’r Beibl, sefydlodd Thomas Charles a Griffith Jones gannoedd o ysgolion Cylchynol i ddysgu oedolion a phlant i ddarllen y Beibl. Galluogodd hyn i bobl Cymru gael darllen y Beibl yn eu mamiaith.

Roedd argaeledd y Beibl Cymraeg a’r ffaith fod pobl yn gallu darllen wedi gosod seiliau i oes newydd cyhoeddi a’r wasg argraffu!

Fe wnaeth stori Mary Jones yn cerdded 25 milltir i brynu Beibl argraff ddofn ar Thomas Charles, a defnyddiodd ef ei ddylanwad i ffurfio Cymdeithas y Beiblau Prydeinig a Thramor yn 1804. Mae’r gymdeithas yn parhau yn llwyddiannus hyd heddiw.

Honnir fod y Cymry yn ‘genedl un llyfr’, a Beibl William Morgan oedd hwnnw. Nid oedd llawer o lyfrau wedi eu cyhoeddi yn y Gymraeg a lledaenodd dylanwad y Beibl i bob twll a chornel o Gymru. Mae goroesiad yr iaith Gymraeg oherwydd cyfieithiad y Beibl yn 1588.

Y Beibl yw’r llyfr sydd wedi ei gyfieithu fwyaf trwy’r byd i gyd. Erbyn diwedd 2014, bydd y Beibl llawn wedi ei gyfieithu i 531 o ieithoedd, ac mae rhannau o’r Beibl ar gael mewn 2,883 o ieithoedd.

William Morgan

Griffith Jones

Thomas Charles

Mary Jones