Mae Byd Mary Jones yn ganolfan ymwelwyr ac addysg sy’n adrodd stori Mary Jones a Thomas Charles, ac effaith y llyfr sy’n gwerthu orau’n y byd – ar Gymru a’r byd.

Agorwyd y ganolfan yn swyddogol ddydd Sul, 5 Hydref 2014 gan Leta Jones, gor-or-or wyres Thomas Charles.

Lleolir y ganolfan yn Eglwys Beuno Sant sydd wedi ei hailddatblygu’n sensitif gan ddefnyddio deunyddiau traddodiadol. Bu’r safle yn fan addoli Cristnogol am dros 1,500 o flynyddoedd ac mae â chysylltiadau cryf â Chymdeithas y Beibl, yr helpodd Thomas Charles i’w sefydlu yn 1804. Thomas Charles yw un o nifer o bobl nodedig a gladdwyd yn y fynwent. 

Menter Cymdeithas y Beibl yw Byd Mary Jones.

Mae Cymdeithas y Beibl, a sefydlwyd gan Thomas Charles ac eraill yn 1804, yn bodoli i gynnig y Beibl i’r byd drwy gyfieithu, cynhyrchu a dosbarthu Beiblau, a phrosiectau llythrennedd, ymrwymiad ac eiriolaeth yn union fel Byd Mary Jones. 

Cysylltwch â ni

E-Bost: centremanager@bydmaryjonesworld.org.uk

Rhif Ffon: 0808 1784 909/01678521877

Mae Byd Mary Jones wedi ei leoli ar lan

Llyn Tegid.

Dyma ni yn 'Byd Mary Jones' yn edrych ar yr arddangosfeydd rhyngweithiol.