Prosiect Treftadaeth - ‘Un, Pump, Sero’

Mae’r ysgol wedi bod yn cystadlu yng nghystadleuaeth Treftadaeth ers blynyddoedd bellach gyda chryn dipyn o lwyddiant. Penderfynwyd y byddai’r Cyfnod Sylfaen yn cystadlu eleni drwy astudio hanes yr ysgol. Bu disgyblion y Cyfnod Sylfaen ar ymweliad i Amgueddfa Abergwili er mwyn astudio hanes yr ysgol slawer dydd.