Bu pedwar cyfieithiad o'r Beibl i Gymraeg, a rhestir hwy yn gronolegol
Testament Newydd Salesbury 1567:
Cyfieithwyd y Testament Newydd Cymraeg gan William Salesbury yn 1567. Ni ddefnyddir hwn heddiw ond mae o bwysigrwydd hanesyddol. Mae cynlluniau i’w ddigido a'i roi ar-lein.
William Morgan 1588, 1620:
Cyfieithwyd yr holl Feibl i'r Gymraeg gan William Morgan ac fe'i hawdurdodwyd
gan Elizabeth i yn 1538. Roedd y cyfieithiad yn cynnwys yr Apocryffa. Fe'i
diwygiwyd gan yr Esgob Richard Parry yn 1620 a hwn yw'r argraffiad a
ddefnyddir heddiw. Mae Beibl William Morgan yn bwysig yn hanesyddol am
mai hwn oedd:
· y Beibl llawn cyntaf yn Gymraeg yn 1588
y fersiwn o'r Beibl roedd Mary Jones ei eisiau a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas y Beibl yn 1804
· y fersiwn y gwnaeth y Cymry ei gymryd i Batagonia yn 1865.
Y Beibl Cymraeg Newydd 1988, 2004:
Yn 1988 fe argraffodd Cymdeithas y Beibl y Beibl Cymraeg Newydd (BCN),neu y Beibl Cymraeg Newydd i nodi 400 mlwyddiant Beibl William Morgan. Roedd y cyfieithiad yn cynnwys yr Apocryffa Crewyd concordans trwyadl ar ei gyfer. Diwygiwyd y BCN yn 2004 fel y Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig (BCND)
Beibl.net:
Yn fwy diweddar cynhyrchwyd beibl.net mewn Cymraeg bob dydd, ac fe'i goruchwyliwyd gan Arfon Jones. Cyhoeddwyd hwn yn wreiddiol ar-lein ac mae'r Efengylau wedi eu hargraffu yn ogystal. Bydd y cyfan o gyfieithiad beibl.net ar gael mewn fformat argraffedig
Testament
Newydd
Salesbury
1567
William
Morgan
1588, 1620
Y Beibl Cymraeg
Newydd
1988, 2004
Beibl.net