Mae Esgair a Bran yn byrlymu
Y dŵr yn chwareus ac yn disgleirio.
Fel plant Penboyr, yn un teulu,
yn caru’r iaith a chadw’r felin i weithio.
Cytgan:
Dewch i ddysgu a dewch i ganu,
Dyma’r lle i dyfu.
Tra byddwn ni gyda’n gilydd
Byddwn ni yn gwenu.
Ni yw’r afonydd sy’n troelli’r Felin
ar hyd y dyddiau
Tra bydd Pedr Penboyr yn danllyd
Byddwn ni a’r Siarter Iaith yn ffrindiau.
Bargod ac Arthen sy’n brysur iawn
yn canu ein hanthem yn swynol.
Fel plant Penboyr mae gan yr afonydd
iaith ei hun, un arbennig a hudol.
Cytgan:
Ysgol Penboyr, ie, Ysgol Penboyr!
Mae’r iaith yn fyw yn Ysgol Penboyr!
Anthem Siarter Iaith