Y Mimosa
Llong cario te oedd y Mimosa o un gwlad i'r llall ac wedi gweld ei dyddiau gorau. Ond nid y llong hyn oedd Michael D Jones wedi llogi i fynd ar ymfudwyr i Batagonia. Roedd Michael D Jones wedi llogi llong or enw y Halton Castle ond cafodd ei wybod na allai defnyddio'r llong oherwydd yr oedd y llong dal ar y mor, felly mae'r Mimosa'n cael ei defnyddio fel dewis ola.
Adeiladwyd y Mimosa ym 1853 ac ni chafodd ei gynllunio i gymryd teithwyr a bu'n rhaid eu trosi ar gost o £2,500.
Y pris o Lerpwl i Batagonia oedd £12 ar gyfer oedolion a £6 am blant. Ond roedd pawb yn cael eu croesawu ar y llong - hyd yn oed os nad oeddynt yn gallu fforddio talu.
Nid ydym yn gwybod yn union y
nifer a ymfudodd i Batagonia
ond amcangyfrir bod y Mimosa
wedi dal:
-56 o oedolion priod
-36 o ddynion sengl neu weddw
-14 o ferched sengl
-57 o blant
Bu y tywydd yn gymharol dawel tra croesi Môr Iwerydd a hyd nes eu bod yn cyrraedd y glannau Brasil, ble mae'r llong wedi ei ddal mewn storm arall.
Roedd na safon gwael o fwyd a llety ar ei bwrdd. Gorchmynnodd y capten y dylai'r menywod i gyd cael eu gwallt golchi a cael eu eillio. Cafodd nifer o deithwyr eu taro yn wael a bu farw pedwar o blant cyn cyrraedd Patagonia.
Does neb yn gwybod beth ddigwyddodd i'r Mimosa ar ôl ei daith i Batagonia, ond bydd hi bob amser yn cael ei gofio am y llong a gludodd yr ymfudwyr Cymreig cyntaf i Batagonia.