Menywod yn gweithio yn y Ffatrioedd Gwlan

Bu Nel yn gweithio yn y Ffatri Wlân Cambrian Drefach am dri diwrnod yn unig!

Roedd Melin Cambrian unwaith yn le llewyrchus iawn yn gwerthu crysau, siol, blancedi a sanau gwlan. Byddent yn cael eu gwerthu yn y farchnad lleol. Byddai rhai yn mynd dros y byd. Roedd ffatri wlân Cambrian yn un o'r rhai mwyaf yn yr ardal hon ac yn gyflogi rhan fwyaf o bobl yr ardal.

Yn Melinau Cambrian y dynion oedd yn gwehyddu a troelli . Credwn bod Nel yn gweithio i fyny'r grisiau yn yr ystafell winio.

Er bod Nel wedi cael i hyfforddi fel gwinyddes, roedd Nel yn casau gweithio yn y ffatri, yn ôl yr hanes dim ond tri diwrnod buodd hi yno!!

Yn ystod y cyfnod hyn, rhai or swyddi byddai menywod wedi gwneud yn y ffatri oedd i ddatrys y gwlân. Roedd hwn yn hanfoddol gan fod y defaid yn wahanol ac ansawdd y gwlân yn amrywio ac yn effeithio ar gynhyrchu dillad, carpedi a blancedi. Roedd ansawdd y gwlân yn dibynnu ar bwy ran o gorff y ddafad roedd yn dod ohono. Byddai'r merched yn gwirio'r rholiau o frethyn ar ôl golchi ac atgyweirio unrhyw ddiffygion. Byddai wedyn yn torri y brethyn ar gyfer blancedi. Yn yr ystafell wïnio byddent yn gwneud crysau a dillad isaf.

Storiau diddorol y glywsom gan aelod o gymdeithas hanes lleol yn Drefach

Dyma llun o'r ystafell weinio yn y

Melinau Cambrian yn y 30au

Roedd y ystafelloedd wïnio lan star yn Melinau Cambrian. Unwaith yr wythnos, byddai'r dyn ffrwythau a llysiau yn dod i'r ffatri. Byddai'r menywod yn gadael bwced i lawr trwy'r ffenest gyda rhestr ac arian, a byddai'r dyn yn rhoi'r ffrwythau a llysiau mewn yn y bwced a byddai'r menywod yn tynnu yn ôl i fyny drwy'r ffenestr. Roedd hyn i gyd yn cael i wneud heb i'r perchennog wybod!

Stori arall - Ar ôl i'r crysau fflanel cael eu gwneud a gwnïo, cawsant eu hongian i fyny. Byddai'r menywod yn dal llewys y crysau tra eu bod yn dal i hongian i fyny ac yn esgus eu bod yn ddynion ac yn eu defnyddio fel partneriaid dawnsio. Fel yn hanes y bwced ffrwythau, mae'n debyg y gallwch ddyfalu nad oedd y perchennog yn gwybod dim am hyn chwaith!