Llain Las

Y Paith

Yr Indiaid Tehuelche

Y Dyddiau Cynnar

Addawyd 100 erw o dir, ceffylau, ychain, defaid, gwenith a chelfi i bob teulu ymfudodd i Batagonia. Roedd yn le delfrydol i setlo i fywyd newydd i ffwrdd oddi wrth yr holl galedi yn ôl yng Nghymru. Ond, dim fel hyn oedd hi! Cawsant nhw 100 erw o dir ond oedd y tir yn anialwch sych a ddiffaith, dim anifeiliaid a dim dodrefn!

Yn y dechrau, roedd yna galedi, caledi i ddod o hyd i ddŵr, caledi i drin y tir estron a chaledi wrth geisio byw heb ddim môr bell o'i cartrefi.

Enw cartref y teulu ym Mhatagonia oedd Llain Las. Er ei bod nhw yn deulu tlawd, roedd bywyd ym Mhatagonia yn fywyd hapus i Nel.

Gwariodd Nel mwyafrif o'i hamser allan yn yr awyr iach ar ei cheffyl Dic. Roedd Dic yn geffyl bach bywiog. Roedd tad Nel wedi cael y ceffyl yn lle torth o fara wrth yr Indiaid Tehuelche brodorol.

Roedd yr Indiaid Tehuelche a'r Cymru yn ffrindiau da, roedden nhw'n galw ei gilydd yn frodyr. Roeddent yn casau y Sbaenwyr!

Roeddent yn caru bara'r Cymru. Byddai mam Nel yn gweithio bara a byddent yn dod i Llain Las a gweiddi "Poco bara, Poco bara". Yn gyfnewid am dwy dorth o fara, byddai'r Indiaid yn rhoi un ceffyl.

Nid oedd gan John Davies lawer o arian, roedd wedi gwerthu ei holl eiddo ar wahân i'w lyfrau. Daeth â'i lyfrau i Batagonia lle roedd yn gallu eu cyfnewid am fwyd a gwenith.