Daeth y Welsh Whisperer i gynnal gweithdy cyfansoddi cân gyda'r ysgol gyfan fel rhan o weithgareddau'r Siarter Iaith.
Mae pentref bach o’r enw Drefach
Lle mae’r plant yn chwarae yn yr awyr iach.
Amgueddfa wlan, sydd yn ein cân,
Dewch i’n gweld ni yn ysgol fach Penboyr.
Mae Neuadd pentref sydd yn gartref
I’r ddraig goch yn edrych dros y tir.
A’r afon Bargod a’r tím pêl-droed
Dewch i ddathlu a chanu gyda ni.
Lle mae pawb yn y pentref yn siarad Cymraeg;
Pob plentyn bach, pob gŵr a phob gwraig
Mae pawb yn hapus, ac yn canu
Dros Gymru annwyl, dyma wlad y ddraig.
Yn yr ysgol mae’r plant yn canu
Hen emynau a hwiangerddi,
Mathemateg ac ysgrifennu
Plant Penboyr, y gorau yn y byd.
Mae’n ysgol eglwysig sydd yn bwysig
Yn un teulu, dysgwn gyda’n gilydd.
Parchu popeth, a bod yn gwrtais,
Diolch am ffrindiau, cariad a’r Gymraeg.
Lle mae pawb yn ypentref yn siarad Cymraeg;
Pob plentyn bach, pob gŵr a phob gwraig
Mae pawb yn hapus, ac yn canu
Dros Gymru annwyl, dyma wlad y ddraig.
Lle mae pawb yn y pentref yn siarad Cymraeg;
Pob plentyn bach, pob gŵr a phob gwraig
Mae pawb yn hapus, ac yn canu
Dros Gymru annwyl, dyma wlad y ddraig.