Syr Harri Morgan

Cymro o bentref Pencarn oedd Harri Morgan ac roedd yn un o'r mor-ladron enwoca'r byd. Ganwyd Harri Morgan yn y flwyddyn 1635 a pan oedd yn 17 mlwydd oed fe ddaeth yn forwr. Hwyliodd i'r Caribi, lle wnaeth Harri Morgan cael ei werthu fel caethwas i weithio mewn planhigfa siwgwr ac roedd yn drist fel penwythnos gwlyb.

Yna, fe wnaeth Harri Morgan ddianc a wnaeth ymuno a chriw o for-ladron yn Jamaica ac ymladd gyda nhw. Ymosododd y criw a Harri Morgan ar llawer o longau y Sbaenwyr a dwyn llawer o'i arian, trysor a gemwaith.

Pan casglodd ddigon o arian fe wnaeth Harri Morgan brynu llong newydd ei hun a cael criw o forwyr newydd arno, Daeth Harri Morgan yn Gapten Harri Morgan.

Ar ol hynny, casglodd Harri Morgan llawer mwy o griw a wnaeth ei longau ymosod ar y Sbaenwyr cyfoethog a dwyn ei aur, arian, gemwaith a'i trysor i gyd. Yn ogystal fe wnaeth arwain deg llong ac ymunodd mwy na pump cant o for-ladron i helpu Harri Morgan a'i griw yn y gornest a dinas Porto Bello.

Bu Harri Morgan a'i griw yn ymladd yn ffyrnig am dridiau, gyda'r mor yn arw fel storom gwyllt. Enillodd Capten Harri Morgan a'i griw yr ornest a daeth Harri heb os nac onibai yn ddyn cyfoethog iawn, iawn, iawn.

Fe wnaeth Harri Morgan ddychwelyd i Prydain Fawr, a wnaeth cael ei wneud yn farchog gan y Frenhines a wnaeth gyhoeddi ef yn Syr Harri Morgan. Yn dilyn hyn, aeth Harri nol i'r Caribi.

Wedyn, yn drist iawn marwodd Syr Harri Morgan a wnaeth cael ei gladdu ar ynys Jamaica. Cofiwn Syr Harri Morgan fel mor-leidr dewr, anhygoel a arwrol iawn a oedd yn dod o Gymru.

gan Abigail Pritchard