Aeth rhai o ddisgyblion blwyddn 5 a 6 i Sain Ffagan i ail-actio ac addasu ein drama 'Twm Twm'.
Ysgrifenwyd 'Twm Twm' yn arbennig i ddisgyblion Penboyr gan y Parchedig Huw George am Derfysgoedd Beca a dryllio'r tollborth.
Cawsom ganiatad arbennig gan Sain Ffagan i ffilmio yng Nghapel Penrhiw, un o'r ysguboriau ac o flaen y tollborth.
Er gwaethaf tywydd gwael, mwynheuodd y disgyblion y profiad o actio yn yr adeiladau hanesyddol.
Ail-Gread yn Sain Ffagan