Diwrnod Agored / Open Day

Cliciwch ar y fideos ar waelod y dudalen i glywed y seremoni agoriadol.

Mrs Wendy Thomas a Dr Carol James cyn torri'r gacen i ddathlu agor yr ysgol 150 mlynedd yn ôl

Fe wnaeth y disgyblion a oedd yn bresennol ganu dwy gân.

Cacen y dathlu

Mwgiau y dathlu

Mosaic gan Mrs Glenys

Williams a'r disgyblion i ddathlu'r 150

Cliciwch ar y fideos isod:

Peintiad gan Rhiannon a disgyblion a'r disgyblion i ddathlu'r 150 mlwyddiant

Cynhaliwyd Dydd Agored i’r gymuned gyfan dydd Sadwrn, Medi 24 ain i ddathlu 150 mlwyddiant yr ysgol. Daeth tyrfa fawr i gefnogi’r ysgol. I agor y prynhawn, bu disgyblion yr ysgol yn canu a thorwyd y gacen gan Mrs Wendy Thomas, a’r Pennaeth cyfredol. Diolch i Mrs Stella Jones, cyn athrawes a llywodraethwraig, am wneud y gacen fendigedig ac i Mr Richard Jones am gasglu hen luniau a’n helpu gyda’r arddangosfa.