Y Caledi

Byddai Nel yn aros yn y ty i helpu ei mham mwy a mwy tra roedd tad Nel a'i brodyr yn brysur yn adeiladu ffosydd, dyfrhau pob modfedd o'u daear yn drefnus i dyfu eu cnydau. Hefyd, roedden nhw yn hela Gwanaco ac ysgyfarnog er mwyn cael cig i'w fwyta. Byddai mam Nel yn halltu'r cig a'i gadw yn rhyw fath o seler, sef twll yn y ddaear.

Roedd ganddynt saith buwch i odro. Byddai Nel yn godro dwy. Enwodd Nel nhw yn Seren a Cochen. Roedden nhw yn cael llaeth i yfed a dwywaith yr wythnos, bydden nhw yn cynhyrchu menyn a chaws.

Un blwyddyn, ar ddiwedd y gaeaf, roedd y da i gyd yn hesb ond am un. Doedd yna ddim digon o laeth i'r teulu yfed, neu wneud caws na menyn. Roedd y cnydau wedi methu yn ystod y haf, oedd y tatws a moron wedi bennu ac oedd y bwyd yn prin trwy gydol y cwm. Roedd rhaid i Nel aros adref o'r ysgol oherwydd doedd dim digon o fwyd i roi yn y pecyn bwyd.

Ffynnon a ffwrn Llain Las.

Yn ystod yr amser hyn, roedd mam Nel wedi cael syniad i ddal dulog. Rhoddodd y dulog mewn sosban ar noson yna cafodd y teulu gawl trwy ddefnyddio'r dulog!

Mae storiau fel hyn yn rhoi syniadau i ni o'r caledi dim yn unig teulu Nel oedd yn dioddef ond llawer o'r teuluoedd a wnaeth ymfudo i Batagonia. Roedd bywyd yn anodd ac roedd mam Nel, Hannah eisiau dod nôl i Gymru. Roedd hi'n meddwl bod Patagonia yn lle ddigalon, ond roedd Nel yn teimlo'n wahanol am hynny. Roedd yn hapus iawn i fod yng nghanol yr anialwch.

Bedd Hannah Davies, mam Nel, yn y Gaiman

Roedd yn drist iawn i Nel pryd bu farw ei mham yn 1882 oherwydd roedd hi dim ond yn plentyn ifanc.

Roedd Nel nawr yn wraig y ty. Rhan fwyaf o'r amser roedd Nel adref oherwydd roedd Dyfrig yn yr ysgol ac roedd ei thad a'i brodyr arall allan yn gweithio.

Roedd rhaid iddi nawr edrych ar ôl y tŷ, a'r anfeiliaid a godro'r da. Dysgodd Nel yn fuan iawn, weithiau byddai'r cymdogion yn galw a hefyd ei hathro T.G. Pritchard yn dod i'w dysgu.