Lluniau Disgyblion Ysgol Yr Hendre, Patagonia

Fe wnaethom anfon linc i'n gwefan Croesi'r Tonnau Nel Fach y Bwcs i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 Ysgol yr Hendre, Patagonia. Roeddem wrth ein bodd i ddeall fod eu disgyblion wedi bod yn edrych ar ein gwefan a'i hastudio. Isod, mae lluniau o'u disgyblion yn edrych ar ein gwefan. Mae'r wefan yn llythrennol wedi croesi'r tonnau!

Hoffem ddiolch i Ysgol yr Hendre am, adael i ni roi y lluniau ar ein gwefan ac edrychwn ymlaen i gael mwy o luniau o'r ysgol yn y dyfodol agos. Rydym wedi trefnu sesiwn Skype i siarad gyda'r disgyblion ac wedi anfon cwestiynau iddynt o flaenllaw.