I ddarganfod mwy am Nel Fach y Bwcs ar gyfer ein prosiect, fe wnaethom wahodd ei theulu a phobl o'r pentref a oedd yn gyfarwydd â hi i ddod i'r ysgol i siarad amdani. Fe wnaethom hefyd wahodd y gymuned leol i ymuno â ni yn y gweithgareddau yn yr ysgol ac yn Neuadd y Ddraig Goch.

Dechreuad ein prosiect oedd edrych ar gefndir pam y gwnaeth pobl ymfudo i Batagonia. Arweiniodd hyn atom i fynd i Lerpwl i weld o ble yr aeth y llong gyntaf, y Mimosa, i Batagonia. Ar y dociau, fe wnaethom gwrdd â Dr Arthur Thomas, aelod o Gymdeithas Cymry Lerpwl, a fu'n adrodd hanes y daith gyntaf honno i Batagonia. Fe wnaethom ymweld â'r Amgueddfa Forwrol i weld model o long y Mimosa. Dr Thomas, fu'n gyfrifol am ddod â'r model o Gernyw i'r Amgueddfa. Buom yn ymweld â New Ross yn Iwerddon i weld llong debyg i'r Mimosa. Cawsom ein tywys o amgylch y llong a buom yn dychmyngu sut brofiad fyddai byw ar ei bwrdd am ddau fis o dan y dec yr holl ffordd i Batagonia. Roedd hyn yn brofiad bythgofiadwy i ni.

Mae'r rhan hon o'n gwefan yn canolbwyntio ar yr ymwelwyr a fu'n ein helpu ar gyfer ein hymchwil a'n teithiau addysgol. Cliciwch ar yr is-benawdau i weld y ffilmiau a'r lluniau o'n gwaith.

Daeth Cwmni Arad Goch i’rysgol i berfformio drama ’Hola’ ar hanes y mewnfudwyr i Batagonia.

Aeth ar ymweliad â dociau Lerpwl i weld cofeb i gofio yr ymfudwyr cyntaf a hwyliodd ar y Mimosa yn 1865.

Cyfweld Dr Arthur Thomas

Er mwyn clywed hanes Nel olygad y ffynnon, fe wnaethom wahodd Eiry Palfrey, wyres Nel i siarad â ni.

Cyfweld Mrs Eiry Palfrey

Ym mis Gorffennaf 2015, cymeron ran mewn seremoni i ddadorchuddio plac treftadaeth glas ar dŷ yn y pentref o'r enw 'Camwy', cartref Nel Fach y Bwcs

Dechreuon ein gwaith ymchwil gyda gwylio

ffilm 'Poncho Mamgu'

Paratoi gwisgoedd ar gyfer y sgrin werdd

Creu sgrin werdd

Daeth Mrs Joanna Jones, swyddog Addysg yr

Amgueddfa Wlân, i rannu ei phrofiad o ymweld â Phatagonia

Cawsom weithdy celf i ddechrau a gwneud printiau dwylo tebyg i’r rhai yn Ogofau Cueva de las Manos, yn yr Ariannin.

Daeth Mrs Olive Campden, hanesydd lleol, i’r ysgol i siarad â ni am Nel a hanes y plwyf.

Cyfweld Mrs Olive Campden, hanesydd lleol

Buom gyda Mrs Campden ar daith o

amgylch y pentref

Ymwelydd arall a ddaeth i siarad gyda ni oedd Mr Eifion Davies, perthynas i Nel.

Cyfweld Mrs Eifion Davies

Derbyniom wahoddiad gan Gymdeithas Hanes ‘Tir a Môr’ Ffostrasol i gymryd rhan mewn noson gyhoeddus gyda Dr Elin Jones

Cynhaliom noson Patagoniaac Ocsiwn yn Neuadd y Ddraig Goch.

Eleni, argyfer ein heisteddfod ysgol, buom yn

perfformio darnau am Batagonia yn ein timoedd.

Buom yn llwyddianus i dderbyn nawdd o£1,500 i greu y cwilt am hanes Nel a’r Rhyfel Byd Cyntaf trwy Amgueddfa Wlân Cymru.

Ar Ebrill15 fed a’r 16 eg, aeth y disgyblion sy’n trosglwyddo i Ysgol Bro Teifi ym mis Medi, ar daith i Iwerddon i weld llong Dunbrody sy’n debyg i’r Mimosa yn New Ross, sir Wexford.

Daeth Mr Hedd Ladd Lewis, Pennaeth Hanes, Ysgol Dyffryn Teifi a thri disgybl y chweched gyda ni.

Fe wnaeth Mr Eifion Davies, ddadorchuddio’r cwilt mewn prynhawn argyfer y rhieni a’r gymuned.

Yn dilyn ein hymweliadaua’n gwaith ymchwil, fe wnaethom gasglu’r tystiolaeth i greu gwefan, gan blant i blant, sy’n lliwgar ac yn rhwydd i’w defnyddio.

Rydym wedi anfon negeseuon at Ysgol yr Hendre yn Nhrelew sy’n dathlu dengmlynedd o fodolaeth eleni ac Ysgol newydd ddwyieithog - Ysgol y Cwm, syddnewydd agor yn Nhrevelin

Rydym wedi creu tair rhaglen radio. Y cyntaf ar hanes yr ymfudo i Batagonia ar y Mimosa,yr ail ar hanes Nel ym Mhatagonia a’r un olaf ar ei hanes yn Drefach Felindrea’n taith i Iwerddon.

Trwy’r prosiect traws cwricwlaidd hwn, rydym wedi dysgu llawer am fywyd gwraig arbennig a diddorol a oedd yn byw tafliad carreg o’r ysgol. Er ein bod yn astudio hanes Patagonia yn yr ysgol felrhan o’r Cwricwlwm Cymreig, mae astudio hanesion diddorol am Nel wedi dod âr hanes yn fyw i ni.

E-bost i rieni

Ymwelwyr a Theithiau Addysgol