Billy Boston

Ganwyd William John Boston ar Awst y chweched, 1934 yn Teiger Bay yng Nghaerdydd. Roedd Billy Boston yn un o unarddeg plentyn ac y chweched i'w eni. Roedd ei fam yn dod o Iwerddon ac yn siarad Gwyddeleg ac roedd ei dad yn dod o Siera, Leone yn Africa ac roedd e'n ddyn y mor. Roedd Billy yn ddyn croenddu.

Daeth Billy Boston o deulu tlawd iawn. Roedd e'n hoff o chwaraeon ond ei hoff chwaraeon cyntaf oedd rygbi . Dechreuodd Billy Boston chwarae rygbi'r undeb i dim Ponty- pridd. Chwaraewr da, penigamp, dawnus a disglair oedd Billy Boston. Ei gôl oedd i chwarae i Gymru ond yn anffodus oherwydd lliw ei groen nid oedd siawns iddo gynrychioli ei wlad achos roedd dewisywyr Cymru ddim moin rhywun croenddu yn ei tim oherwydd hiliaeth.

Caeth Billy Boston ei weld gan glwb rygbi gynghrair Wigan a chafodd siawns i cael ei dalu a chwarae rygbi i Wigan. Roedd penderfyniad mawr gan Billy i wneud. Pun ai i aros a chwarae i tim Pontypridd yng Nghymru a ddim cael ei drin yn iawn neu fynd i fwrdd i Gogledd Lloeger a chwarae i Wigan, cael ei dalu am chwarae rygbi Gynghrair a cael ei barchu'n iawn!

Cafodd Billy Boston yrfa ardderchog a gwych yn Wigan ac roedd yn wen o glust i glust am ei benderfyniad. Chwaraeodd 488 o weithiau i Wigan gan sgori 478 cais dros gyfnod o 15 mlynedd ac roedd BillyBoston mor gyflym ar gwynt. Chwaraeodd e i Prydain fawr, 31 o weithiau a Billy Boston oedd y dyn croenddu cyntaf i chwarae rygbi'r Gynghrair yn Awstralia.

Fe wnaeth Billy Boston ymddeol o rygbi yn y flwyddyn 1970, a cofiwn ni ef fel chwaraewr rygbi pwysig iawn. Ond, yn anffodus cafodd ei drin yn anheg iawn,iawn yng Nghymru oherwydd roedd lliw ei groen yn ddu!! Fyddwn ni gyd yn cofio William John Boston ac mae yna cerflun wedi ei godi tu allan i stadiwm rygbi'r Gynghrair Wigan i gofio amdano.

Gan Abigail Pritchard