Ambiwlans Awyr Cymru

Aeth aelodau hynaf y Cyngor Ysgol, Mrs Vobe, athrawes â chyfrifoldenb am y Cyngor Ysgol a Mrs James, Y Pennaeth ar ymweliad â chanolfan yr Ambiwlans Awyr Cymruyn Abertawe. Bwriad y daith oedd i gyflwyno siec £160, sef arian a gasglwyd yn ein cwrdd Diolchgarwch, i’r elusen. Cawsant groeso arbennig gan y criw a chyfle i holi cwestiynau am waith yr Ambiwlans Awyr ac eistedd i fewn yn yr hofrennydd.