Dechreuon trwy edrych ar bob Beibl oedd wedi cael ei gyfieithu i'r Gymraeg, a'r dynion a gyfieithodd y Beiblau o 1588 hyd heddiw pan y gellir ddarllen y Beibl yn Gymraeg ar y we. Roedd yna llawer o wybodaeth roeddem wedi ffeindio ar y we. Yna gwnaethom tudalennau am hanes William Morgan, Griffith Jones a Mary Jones, o beth roedden ni wedi dysgu yn yr ysgol ac ar deithiau fuon ni arnynt. Cawsom lawr o wybodaeth am eu bywydau a lle oeddent yn byw.

Mae'r wefan yma yn dangos sut mae'r Beibl Cymraeg wedi tyfu a ffynnu ers cafodd ei gyfieithu i'r Gymraeg gan William Morgan nôl yn 1588.

Roedd William Morgan yn byw yng nghyfnod y Tuduriaid a theyrnas Elizabeth 1, a hi oedd yr un oedd eisiau'r Beibl gael ei gyfieithu er mwyn i'r Cymry ddeall y Beibl yn iaith ei hunain. Roedd Elizabeth 1 eisiau Cymru i fod yn wlad Brotestanaidd a dim dilyn y crefydd Gatholig felly meddyliodd Elizabeth 1, wrth roi'r Beibl i bobl Cymraeg byddent yn aros yn Brotestannaidd. Hyd nes yr amser yma roedd y Beibl wedi cael ei ddarllen yn y capeli yn Lladin gan ond ychydig iawn o bobl oedd yn medru darllen.

Mae rhaid diolch i Elizabeth 1 am ofyn i William Morgan i gyfieithu'r Beibl, heb law amdani hi efallai na fyddwn

ni'n siarad Cymraeg heddiw!

Mae Ysgol Penboyr yn ysgol Eglwys a fel rhan o'n gwersi rydyn wedi bod yn astudio William Morgan, Griffith Jones a Mary Jones. Pan glywsom am gystadleuaeth creu gwefan yr Urdd, meddylion ni ein bod yn gallu rhoi y wybodaeth rydyn ni wedi ei ddysgu am y tri person pwysig yma a'u cyfraniad tuag at lwyddiant y Beibl a'r iaith Gymraeg i mewn i wefan i blant eraill i ddarllen - gwefan gan blant i blant!

Elisabeth 1

William Morgan, Griffith Jones

a Mary Jones

Cliciwch ar gwrlyn y dudalen i droi i'r dudalen nesaf

William Morgan