Hanes y Dunbrody
Roedd criw o 12-15 o ddynionyn yn hwylio'r Dunbrody, yn cynnwys , tîm o forwyr a phrentisiaid cyffredin. Hefyd ar y bwrdd oedd cogydd, saer coed a gwneuthurwr hwyliau. Gwyddelod oedd rhan fwyaf o'r criw, ond gan fod y Dunbrody yn hwylio'r byd, roedd pobl o wledydd eraill yn gweithio arni ar adegau.
Adeiladwyd y Dunbrody yn Quebec yn 1845 gan Thomas Hamilton Oliver ar gyfer y teulu Graves, masnachwyr o New Ross yn Wexford. Llong cario coed a gwano i Iwerddon ydoedd.
Roedd New Ross yn borthladd
llewyrchus yn y 1800au. O'r
porthladd bach yma hwyliodd
llongau i Lerpwl, Efrog Newydd,
New Orleans, Gwlad Pwyl, Peru,
India ac Awstralia.
Thomas Hamilton Oliver,
builder of the Dunbrody.
Roedd y criw yn cael eu rhannu mewn i ddau dîm. Byddai'r tim cyntaf yn gweithio am bedair awr. Roedd cloch y llong yn canu bob hanner awr, ac ar ddiwedd y bedair awr byddai'r cloch yn cael ei chanu wyth gwaith er mwyn newid drosodd i'r tim arall o weithwyr.
Gwaith y morwyr oedd; slacio'r hwyliau, bod wrth yr olwyn, gwylio am fynyddoedd iâ, peintio a thrwsio'r llong, a golchi'r dec bob dydd i atal y pren rhag sychu a crebachu. Cyflog y morwyr oedd tua £ 2 y mis.