Cyflwyniad
Mae ein project hanes blwyddyn yma yn dechrau yn ein pentref ni Drefach Felindre, ac yn teithio ar draws y dŵr i Batagonia ac yn nôl i Drefach.
Mae Felindre yn bentref gwledig sydd yn Sir Gaerfyrddin ac yn gartref i Ysgol Penboyr sydd yn Ysgol Egwysig,
Drefach
Oherwydd y diwydiant gwlân yn ein hardal, cafodd Drefach ei adnabod fel 'Huddersfield Cymru' yn gyflym iawn. Roedd llawer o hen adeiliadau enwog a digwyddiadau hanesyddol pwysig wedi rhoi Drefach Felindre ar y map. Datbygodd Drefach yn le o ddiddordeb hanesyddol.
Mae un enwogion Cymru yn hannu o'r
ardal sef Griffith Jones, a gofiwn am iddo
sefydlu ysgolion cylchynol. Cafodd ei eni
ym mhlwyf Penboyr ym Mhantyrefail,
Cwm Hiraeth.
Roedd Capel Pen-rhiw yn sefyll yn Drefach,
ond cafodd ei ailgodi yn Amgueddfa Werin
Cymru, St Fagans yn 1956. Agorodd yn
1777, mae yn nodweddiadol o gapeli anghydffurfiol Cymreig cynnar.
Hefyd cafodd y ffilm 'Tan ar y Comin' ei ffilmio yn agos i Drefach.
Ym mis Gorffennaf 2015, cymeron ran mewn seremoni i ddadorchuddio plac treftadaeth glas ar dŷ yn y pentref o'r enw 'Camwy', cartref Ellen Davies, sef Nel Fach y Bwcs, fel y gelwid hi, pan ddaeth hi a'i thad yn ôl o Batagonia yn 1901. Dadorchuddiwyd y plac gan unwaith roedd y tŷ yma yn gartref i Nel fach y Bwcs. Roedd disgyblion ein hysgol yn rhan or seremonïau yn ystod y dydd, gan ganu i'r gymuned leuol a chafodd cerdd i ysgrifennu a darllen gan un o ddisgyblion blwyddyn 6.
Ond beth oedd yn bwysig am Camwy? Pam cafodd plac glas ei ddadorchuddio ar y ty? Ac yn fwy pwysig byth, pwy oedd Nel Fach y Bwcs?
Wrth i ni ymchwilio ymhellach roedd y pwnc yn dod yn fwy diddorol, ac yn bwysig iawn i hanes ein pentref ni.
Ysgol Penboyr
Griffith Jones
Capel Pen-rhiw
Amgueddfa Wlan