Cynnwys Ein Gwefan - Tyfu a Ffynnu

Introduction to our Website - Tyfu a Ffynnu

Cystadleuaeth Creu Gwefan yr Urdd

https://penboyr.j2bloggy.com/Tyfu-a-Ffynnu

Mae pump o'n harweinwyr digidol o flwyddyn 5 a 6 wedi bod yn brysur yn creu gwefan eu hunain ar William Morgan, Mari Jones a thwf y Beibl Cymraeg ar gyfer cystadleuaeth Creu Gwefan yr Urdd.

Thema yr Urdd eleni yw 'Tyfu a Ffynnu'. Fel rhan o'r cwricwlwm, rydym wedi bod yn astudio Yr Esgob William Morgan a phwysigrwydd y Beibl Cymraeg cyntaf a gyfieithodd yn 1588, ac hefyd hanes Mari Jones, a gerddodd 26 milltir o'i chartref yn Llanfihangel-y-Pennant i'r Bala i brynu Beibl yn 1800.

Gan ein bod yn astudio dau gyfnod pwysig yn hanes Cymru, meddyliom y byddai'n ddiddorol i astudio sut yr oedd y Beibl Cymraeg wedi datblygu a ffynnu ers 1588 hyd heddiw pan y gellir ei ddarllen ar lein.

Er mwyn deall a chreu cofnod hanesyddol o hyn, roedd angen ymchwilio ymhellach. Defnyddiom ffynonellau dibynnol o'r we a llyfrau ac aethom ar ymweliadau i Ogledd Cymru. Ar ein taith cyntaf, aeth blwyddyn 6 i Dy Mawr, Wybrnant, ger Betws y Coed, cartref William Morgan. Fe wnaethom ymweld hefyd â Chanolfan Mari Jones yn y Bala. Ni oedd yr ysgol gyntaf i ymweld â'r ganolfan ac mae ein lluniau ar eu gwefan a bydd ein lluniau yn eu pamffledi.

Ar ein hail ymweliad, cafodd blwyddyn 5 gyfle i ymweld â Chanolfan Mari Jones yn y Bala. Fe wnaethom ganolbwyntio ar astudio Mari Jones, ei bywyd a'i thaith hanesyddol i'r Bala. Ar ein ffordd i Ganolfan Mari Jones, fe wnaethom ymweld a'i chartref priodasol ym Mryn Grug, ei bedd yng Nghapel Bethlehem, y cartref lle magwyd hi yn Llanfihangel-y-Pennant ac Eglwys Sant Michael lle cafodd ei bedyddio.

Defnyddiom raglen o'r enw j2bloggy. Mae j2bloggy yn rhan o'r offer ar lein yr ydym yn ei ddefnyddio'n rheolaidd.

Er mwyn gweld y wefan, cliciwch ar y linc isod neu'r linc ar dop y dudalen:-

https://penboyr.j2bloggy.com/Tyfu-a-Ffynnu/

Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen ein gwefan a'i gweld yn ddefnyddiol!Mae ein pump arweinydd digidol wedi gweithio'n galed i greu y wefan, gan blant i blant, a byddai'r disgyblion yn gwerthfawrogi cael sylwadau am eu gwefan. Gallwch ebostio'r disgyblion ar:

admin@penboyr.ysgolccc.org.uk.

To read this in English, please click on the page curl at the bottom of the page