Yn anffodus, roedd merched yn cael llai o dâl na dynion am wneud yr un gwaith! o ganlyniad roedd pryder y byddai cyflogwyr yn parhau i gyflogi menywod yn y swyddi hyn hyd yn oed pan byddai'r dynion yn dychwelyd o'r rhyfel.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd rhaid i'r merched a oedd yn gweithio yn y melinau gwlân yn Nrefach wehyddi'r gwlan a gweithio y gwyddiau yn lle'r dynion. Roedd perchnogion y felin yn hysbysebu am fenywod i wehyddi.

Roedd swyddi newydd yn cael eu creu yn y ffatrïoedd arfau. Byddai'r ffatrïoedd amddiffynfa oedd yn cynhyrchu arns, bwledi a chregyn ar gyfer y rhyfel, yn cynnig mwy o arian, felly roedd llawer o fenywod yn gadael y ffatrioedd gwlan ac yn teithio ar drenau o Ddyffryn Teifi i'r ffatri arfau ym Mhenbre a'r gweithfeydd dur yn Llanelli.

Er bod y cyflog yn y ffatri arfau yn well, roedd yn annymunol, yn beryglus ac roedd rhaid gweithio oriau hir.

Roedd y menywod yn y ffatrïoedd mawr yn gweithio gyda TNT. Gelwir y merched yn 'caneris' am eu bod nhw yn trin TNT oedd yn ffrwydrol wenwynig a allai achosi cyflwr a elwir yn clefyd melyn gwenwynig, byddai'n troi y croen yn felyn. Cafodd llawer o fenywod eu lladd oherwydd y ffrwydradau.

Gyda'r holl swyddi roedd y merched yn eu gwneud yn ystod y rhyfel, mae'n sicr mae y menywod oedd yn cadw'r wlad i fynd tra bod y dynion i ffwrdd yn ymladd!

Merched a'r Ffatri Arfau