Deffrwch!
Dawnsiwch!
Symudwch!
Beth bynnag eich doniau ymunwch gyda ni bob bore Mawrth, Iau a Gwener am 8:45yb, ar fuarth y babanod.
Byddwn yn symud i gerddoriaeth bywiog ac yn deffro'r corff cyn dechrau diwrnod hwylus yn yr ysgol.
Deffrwch y corff.
Cadwch yn heini.
Canolbwyntiwch yn well.
Nid yw rhedeg i bawb! Nid yw dawnsio i bawb!
Gofynnwn yn garedig i blant y Meithrin a'r Derbyn i gael eu cludo'n syth i'r buarth yn hytrach na dod i'w dosbarthiadau. Diolch am eich cydweithrediad.