Taith Anturus
Rwy’n cofio dadcu yn adrodd hanes
Am bobl dewr a fu,
Yn croesi’r Cefnfor Iwerydd
Ar fwrdd y Mimosa du.
Taith anturus, dechrau newydd
Rhai yn llawen ac yn gyffrous,
Gobeithio roeddent am wlad oedd yn well
Rhywle oedd yn hapus.
Gadawsant rieni, atgofion melys
Ffarwelio â Gwlad y Gân,
Ond sefydlwyd Gwladfa newydd
Ym Mhatagonia lân.
Heddiw, maent dal i ffynnu
Mae’r iaith dal yn fyw,
Bydd yr iaith yn fyw am fodolaeth
Enaid, Gwlad a Duw.
Cerdd fuddugol James Culf