Camwy

Ym mis Gorffennaf 2015, cymeron ran mewn seremoni i ddadorchuddio plac treftadaeth glas ar dŷ yn y pentref o'r enw 'Camwy', cartref Ellen Davies, sef Nel Fach y Bwcs, fel y gelwid hi, pan ddaeth hi a'i thad yn ôl o Batagonia yn 1901. Dadorchuddiwyd y plac gan deulu Nel.

Dyma Peter Hughes Griffiths, Eiry Palfrey a'i brawd Arwyn tu allan i Camwy gyda perchnogion presennol y tŷ.

Plac Treftadaeth

Daeth pobl y pentref i'r seremoni. Roedd disgyblion ein hysgol yn rhan or seremonïau yn ystod y dydd. Buom yn canu i'r gymuned leol a darllenwyd cerdd James Culf, un o'n disgyblion blwyddyn 6 am Batagonia, 'Taith Anturus' a enillodd Eisteddfod Ysgol 2015. Cerddodd y dorf i fyny i'r mynwent ble roedd Nel Fach y Bwcs wedi cael ei chladdu.

Ond beth sy'n bwysig am Camwy?

Pam gafodd plac glas ei ddadorchuddio ar y tŷ?

Ac yn fwy pwysig byth, pwy oedd Nel Fach y Bwcs?

Wrth i ni ymchwilio ymhellach, 'roedd y pwnc yn dod yn fwy diddorol, ac yn bwysig iawn o ran hanes ein pentref ni.

Cliciwch ar y ffilm isod i glywed y disgyblion yn canu cân 'Patagonia Bell'.