Y Newyddion Dyddiol

Gwyrth Gwych!

www.newyddiondyddiol.com Hoff papur newydd y byd 24 o Fawrth, 33

Ddoe, atgyfododd Iesu Grist o'r bedd yn fyw! Digwyddodd hyn mewn pentre bach o'r enw Jeriwsalem.

Dyn Cristnogol oedd Iesu, yn teithio o gwmpas y byd yn dangos y ffordd o fyw. Mae rhai pobl yn ei adnabod fel Mab Duw.

Roedd y Rhufeiniad am ladd Iesu oherwydd aeth Iesu yn wyllt tu fewn i'r deml. Dinistriodd y deml oherwydd troiodd y Rhufeiniad ty Duw i fewn i farchnad a thwyllo'r pobl cyffredin! Penderfynodd y Rhufeiniad rhoi Iesu ar groes bren i farw. Felly, ar ddydd Gwener (y Groglith) croeshoeliwyd ar ben mynydd Golgotha.

Ar ôl iddo farw, lapiwyd ef mewn llieiniau a rhoi mewn ogof tywyll. Rhoddwyd carreg fawr o flaen yr ogof.

Yna, ddoe, aeth Mair Magdalen a gwragedd eraill at y bedd i ffarwelio unwaith eto ond pan cerddodd Mair ai ffrindiau lan i'rbedd, gwelodd bod y carreg wedi symud.

Dywedodd hi, "Roedd y bedd yn wag! Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth - roedd corff Iesu wedi diflannu, yr unig peth oedd yn yr ogof oedd llieiniau claddu Iesu. Gwelais angel o'r nef tu fewn yr ogof ond dim byd arall. Yna, es i allan i'r goleuni a dyna pryd cefais sioc anferthol - roedd Iesu yn sefyll o fy mlaen!"

Dywedodd llygad-dyst arall, Pedr, "Daeth Iesu atom ni a dywedodd, "Tangnefedd i chi" a dangosodd yr hoelion yn ei ddwylo!"