NyW -Ysgrifennwch llythyr i Mark Gregory o gwmni Statkraft yn diolch am y croeso

a'n ymweliad diweddar ir melinoedd gwynt yn Alltwalis

Ysgol Cae'r Felin,

Pencader,

Sir Gar SA39 9AA

6ed o Chwefror, 2015

Annwyl Mr Gregory,

Ysgrifennaf atoch chi, i ddiolch am ein ymweliad i melinoedd gwynt Alltwalis ddydd Gwener diwethaf. Roeddwn i a fy ffrindiau wedi mwynhau yn fawr iawn ac wedi cael profiad penigamp.

Rydym wedi bod yn astudio 'Ynni' fel ein thema dosbarth, ac o ganlyniad roedd cael dod i weld y melinoedd gwynt yn gyfle syfrdannol i'r dosbarth. Dysgom ni llawer am y melinoedd gwynt bod taldra y melinoedd gwynt yn 60 metr a mae un llafn yn 40 metr o lled, ac roedd pawb yn wen o glust i glust pam roeddech chi wedi gadael ni gyd mynd mewn i'r twrbin wynt.

Ac wrth gwrs,mae melinoedd gwynt yn gwneud ynni adnewyddol!

Unwaith yn rhagor, hoffwn ddiolch am ein diwrnod penigamp ond OER!!! a hoffwn ni ddod eto ond wyt ti'n gallu addo bod e'n dwymach?

Yr eiddoch yn gywir

Emily Hazelby

Blwyddyn 6

Ysgol Cae'r Felin

Ysgrifennu Llythyr