Ganed Thomas Charles ar 14eg o Hydref 1755 ac fe'i bedyddiwyd ar 26ain o Hydref 1755 yn Longmoor, Llanfihangel Abercywyn yn Sir Gaerfyrddin.

Ymsefydlodd y Parchedig Thomas Charles yn y Bala ac roedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu Ysgol Sul gylchlynol yn yr ardal. Roedd Ysgolion Sul yn rhoi cyfle i bobl ddysgu darllen ac ysgrifennu, ac roedd gwersi'n cael eu cynnal yn y prynhawn, rhwng gwasanaethau'r Capel yn y bore a’r nos. Byddai’r rhai oedd wedi teithio o gryn bellter yn dod â phryd o fara a chaws gyda hwy i'w fwyta amser cinio.

Roedd y Parchedig Thomas Charles hefyd yn gyfrifol am sicrhau a dosbarthu miloedd o Feiblau Cymraeg, ac ef oedd yr un wnaeth annog Mary Jones i gynilo arian i brynu ei Beibl ei hun.

Cafodd ymweliad Mary Jones effaith fawr ar Thomas Charles. Dechreuodd feddwl beth allai gael ei wneud i eraill fel Mary - pobl sy’n hiraethu am y Beibl ar draws y byd.

Cynigiodd Gymdeithas y Traethodau Crefyddol y dylid sefydlu Cymdeithas newydd i gyflenwi Beiblau i Gymru, gellid ffurfio cymdeithas i’r pwrpas - ac os i Gymru, pam nad i'r Deyrnas, pam nad i’r byd cyfan?'

Enw:- Thomas Charles

Ganed:- 14eg Hydref 1755

Priododd Thomas Charles â Sarah Jones (Sally).

Priodwyd y ddau ar 20 Awst 1783 yn Eglwys Beuno Sant, Llanycil - sydd nawr yn gartref i Fyd Mary Jones. Roedd gan y cwpwl dri o blant, Thomas Rice Charles, Sarah Charles a David Jones Charles.

Eu cartref yn y Bala (Banc Barclays heddiw).