Ysgol Cae'r Felin,

Pencader,

Sir Gar SA39 9AA.

6ed o Chwefror, 2015

Annwyl Mr Gregory,

Ysgrifennaf atoch i ddiolch am ein ymweliad i'r melinoedd gwynt yn

Alltwalis. Gobeithio gewch chi'r llythyr hyn.

Rydym wedi bod yn astudio 'Ynni' yn ein thema gydol y tymor. Ar ein ymweliad dysgom ni bod un melin wynt yn costio tua dwy miliwn o bunoedd ac mae'n gallu creu ynni ar gyfer 16,000 o gatrefi bob blwyddyn (WOW!).Yn ogystal mae taldra melinoedd gwynt Alltwalis yn 60 metr o uchder a mae'r llafnau yn 40 metr o lled! Cafon ni amser penigamp, roedd y plant yn hapus fel y gog, yn wen o glust i glust ac yn y broses roedd y melinoedd gwynt fel cwmwl grafwyr yn ein ymyl ni blant! Yn ogystal, hoffwn ni ddiolch i'r cwmni Statkraft eto.

Ar rhan y dosbarth, hoffwn dweud diolch yn fawr iawn am adael ni ddod

ac heb os nac oni bai roedd ein traed ni fel blociau o ia gydol yr ymweliad gan ei fod mor oer yno! Gobeithio y tro nesaf ni'n dod bydd yn ddiwrnod heulog!!

Diolch yn fawr,

Kari Graves

N.Y.W - Ysgrifennu llythyr i Mr Gregory.