Newyddion Eco/Iach Hydref 2016

Croeso i'r tymor newydd ac i gyngor Eco newydd, brwdfrydig yr ysgol! Mae nhw'n barod wedi creu arolwg amgylcheddol ac wrthi yn ei ddadansoddi. Diolch i bawb gyfrannodd iddo.

Sbwriel: gwelwyd fod tir yr ysgol ar y cyfan yn ddi-sbwriel. Mae'r swyddogion yn gwneud gwaith da! Roedd angen targedu iard y babanod ac felly mae'r cyngor yn barod ar waith yn gwneud hyn ac yn gwobrwyo sticeri am ymdrech dda.

Sylwyd bod angen am fwy o finiau compostio.

Mae 3 newydd bellach yn eu lle.

Gwnewch wahaniaeth ac edrychwch allan am ein prosiect

#'doliggwyrdd y tymor nesaf! @YsgolNant

Dyma ein ffrindiau ffein am eleni! Diolch i'r CRA am y fainc newydd ffrindiau ffein sydd ar yr iard.

Y criw brwdfrydig sy'n gofalu am yr ieir eleni!

Wyau ar werth: £1 o Fl 4!

Ardal Allanol:

Diolch i griw garddio gweithgar am ddechrau tacluso'r ardal allanol. Fe fydd rhan 2 o'r ardd synhwyrau newydd ar waith o fewn y mis nesaf. Os oes gan unhrywun gyswllt a allai roi 'sleepers' i ni plis cysylltwch.

Ail-ddefnyddio/Ail-gylchu:

Diolch i bawb am eich cyfraniadau i'r diwrnod 'Cyfrannu nid Taflu.' Casglwyd llu o ddillad ar gyfer siop elusen RSPCA Llys Nini. Cofiwch gasglu hen esgidiau ar gyfer ein prosiect diolchgarwch - Sal's shoes.

Mae Blwyddyn 6 wedi bod yn brysur yn monitro cyflwr glendid gwahanol ardaloedd o'r ysgol ac wedi ein syfrdanu!

Cofiwch eu negeseuon golchi dwylo'n lân!

Rydym yn mynd i ddechrau casglu topiau boteli llaeth eto. Dewch â nhw i'r ysgol ac fe fyddan nhw'n cael eu hail-gylchu er mwyn casglu arian at offer i'r anabl yn Ysbyty Glangwili.

Mae llu o siwmperi ac eiddo coll ar hyd a lled yr ysgol ac yn anffodus ni allwn eu dychwelyd at eu perchnogion. Does dim enwau arnynt. I hwyluso'r broses edrychwch ar y labeli sydd i gael ar: www.MyNametags.com Defnyddiwch School ID 24417; ac fe fydd yr elw yn mynd at waith y Cyngor Eco. Anrheg Nadolig perffaith!

Hyderwn ein bod yn ddiogel yn yr ysgol gan fod pob aelod o blant yr adran Iau wedi dysgu sgiliau cymorth cyntaf sylfaenol. Diolch i griw Ambiwlans St. Johns.

Diolch i bawb gyfrannodd at y siarter hawliau drwy ddychwelyd cytundebau cartref!

Mae llu o gystadlaethau chwaraeon wedi bod ar waith y tymor yma yn barod. Llongyfarchiadau i Owain-Hari a Dylan Davies am gael eu dewis i garfan y 'District.'