Yr Amgylchedd

The Environment

Mae Ysgol Nantgaredig yn Ysgol Awyr Agored ac Eco Blatinwm. Ymdrechwn i weithio yn yr awyr agored pan fo cyfleoedd yn codi. Mae gennym Gyngor Eco gweithgar sydd yn cydlynu gweithgareddau amrywiol yn yr ysgol. Caiff Blynyddoedd 2 a 4 gyfleoedd i weithio ar brosiectau Ysgol Goedwig ac edrychwn am gyfleoedd i ddatblygu'r ardal allanol bob amser. 'Rydym yn ffodus iawn bod safle arbennig gyda ni fel ysgol i'w ddefnyddio i atgyfnerthu addysg ein plant. 'Rydym ni fel ysgol wedi ein gwobrwyo am hyn gyda'n statws Eco Blatinwm. Ymfalchiwn bod ein plant yn dangos parch tuag at yr amgylchedd ac ail-gylchu ac ymgeisiwn i sicrhau eu bod yn datblygu'n ddinasyddion byd-eang gweithgar.

At Nantgaredig we are an Outdoor Learning School. We endeavour to work outdoors as much as possible. We have an active Eco Committee who co-ordinate school activities. Years 2 and 4 have opportunities to partake in Forest School projects. We always look for ways to develop our school grounds and are fortunate to have excellent outdoor facilities to promote our outdoor projects and the children's learning. We have been awarded with the Platinum Eco status for our efforts. We do pride ourselves by the fact that our children are encouraged to take pride for their environment, to re-cycle and to develop into global citizens.