Stadiwm y Mileniwm

Ydych chi yn gwbod pethe amdano Stadiwm y Mileniwm? Wel, os chi am ddarganfod mwy darllenwch yr adroddiad yma.

Ble mae e?

Wel, mae Stadiwm y Mileniwm yn prifddinas Cymru sef Caerdydd. Mae yn stryd Westgate, ar cyfeiriad yw Stadiwm y Mileniwm, Stryd Westgate, Caerdydd CF10 INS.

Pryd adeiladwyd?

Dechreuwyd adeiladu y Stadiwm yn 1997 a gorffenodd yn 1999. Roedd wedi hala tua dwy flynedd i gael ei adeiladu.Roedd y Stadiwm wedi cael ei agor yn swyddogol gan y Frenhines Elizarbeth yr ail. Mae'r Stadiwm yn 17 oed!.

Pwrpas y Stadiwm?

Heb os nac onibai, Mae'r Stadiwm i bobl Cymru i weld ddigwyddiadau fel rygbi,pel-droed,cyngherddau a llawer mwy. Mae'r Stadiwm yn cynnal dros 350 o ddigwyddiadau bob blwyddyn.

Pam adeiladwyd?

Adeiladwyd y Stadiwm ar gyfer cwpan rygbi y byd yn 1999. Y gem cyntaf erioed yn y stadiwm oedd Cymru erbyn De Affrica. Roedd Cymru wedi ennill! Roedd y Stadiwm wedi costio £114 miliwm o bunnoedd.

Unhryw wybodaeth arall?

Mae'r Stadiwm yn gallu dal 74,500 o bobol ynddo ac mae 1.3 miliwm o bobol yn ymweld ar Stadiwm bob blwyddyn. Mae'r Stadiwm yn 90 metr o uchder a tua 150 metr o hyd.Yn y Stadiwm, mae 12 grisiau symudol, 760 toiledau, 6 ty bwyta a mae dros 300 o bobol yn gweithio yno. Mae dros 50,000 o bobol ar draws y byd yn dod i weld y Stadiwm pob blwyddyn a cyn hir mae enw y stadiwm yn newid i Stadiwm y Principality.

Gobeithio eich bod chi yn gwybod tipyn mwy o wybodaeth amdano'r Stadiwm nawr!

gan Bethany