LANCE ARMSTRONG

Beiciwr professiynol oedd Lance Armstrong ac yn y flwyddyn 1993 enillodd y pencampwriaeth y byd.

Yn anffodus yn 1996 roedd Lance Armstrong yn dioddef o cancr, ei siawns o fyw oedd 10% y cant ai siawns o reidio ei feic yn professiynol eto oedd 1% y cant.

Yn ffodus, gwellodd Lance Armstrong ac yn y flwyddyn 1999 fe wnaeth reidio ei feic yn y ras fyd enwog y Tour De France. Enillodd y Tour De France am y tro cyntaf yn 1999, tair mlynedd ar ol cael cancr!! Roedd e'n beicio'n gyflymach na thren.

Yn y flwyddyn 2000, sefydlodd elusen 'Live Strong'. Mae elusen 'Live Strong' i bobl sydd a neu wedi cael cancr, ac i rhoi gobaith i pobl sydd yn dioddef neu wedi cael cancr. Fe wnaeth Armstrong enill Y Tour De France 7 gwaith eto a wedyn fe wnaeth ymddeol.

OND, roedd rhai pobl yn meddwl fod Lance Armstrong yn twyllo ac yn cymryd cyffuriau i wella ei berfformiad. Yn 2009, fe wnaeth dod allan o ymddeoliad a cymryd rhan yn y Tour De France unwaith eto. Fe ddaeth yn drydydd.

Ond, yn dilyn hyn yn y flwyddyn 2013, yn fyw ar y teledu, fe wnaeth Lance Armstrong cyfaddef ei fod wedi cymryd cyffuriau a'i esgus oedd bod pawb arall yn cymrud cyffuriau hefyd! Felly pam ddim gwneud e fy hunain. Roedd yn fwy slei na chadno.

Yn ei yrfa beicio enillodd £125,000,000 o bunoedd ac fe wnaeth codi dros £300,000,000 o bunoedd i'w elusen 'Live Strong.'

Felly, a yw'n arwr neu'n ddihiryn?

Mae rhai pobl yn credu fod yn arwr oherwydd fe wnaeth enill ras y Tour De France 7 gwaith, fe wnaeth sefydlu elusen 'Live Strong' a hefyd fe wnaeth goresgyn yr afiechyd cancr a rhoi gobaith i miliynau o bobl.

Ond, mae rhai pobl yn meddwl ei fod yn ddihiryn oherwydd fe wnaeth cymryd cyffuriau i wella ei berfformad a hefyd fe wnaeth twyllo a cafflo pawb arall i enill.

Heb os nac oni bai, yn fy marn i rwyn credu fod Lance Armstrong yn ddihiryn oherwydd heb gymrud cyffuriau byddai Lance Armstrong ddim wedi gallu enill Y Tour De France. Yn y flwyddyn 2009, fe ddaeth yn trydyydd heb gymryd cyffuriau. Felly roedd ddim angen twyllo pawb arall! Mae Lance Armstrong mor ddrwg a ceffyl yn cicio ac yn ddihiryn go iawn!!!

Felly beth yw eich barn chi - arwr neu dihiryn?

gan Abigail Pritchard

Arwr neu Dihiryn